Cross Party Group Clean Air Act for Wales

Grŵp Trawsbleidiol Deddf Aer Glân i Gymru

Microsoft Teams

12 Mehefin 2023, 10am-11am

Yn bresennol:

 

Aelodau o’r Senedd:

Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd)

Jane Dodds AS

Altaf Hussain AS

Julie James AS

Carolyn Thomas AS

Lee Waters AS

 

 

Rhai nad ydynt yn Aelodau o’r Senedd

 

Daniel Arabella

Jason Bale

Ioan Bellin

Huw Brunt

Daniel Butler

Deborah Butler

Huw Brunt

Joseph Carter

Ciaran Donaghy

Haf Elgar

Kate Forster

Roger Herbert

Y Cynghorydd Neil Lewis

Joshua James

Y Cynghorydd Keith Henson

Yr Athro Paul Lewis

Y Cynghorydd Rhys Livesy

Steve Manning

Hannah Morgan

Rhian Novell-Philips

Gwenda Owen

Olwen Spiller

Rhian Williams

Y Cynghorydd Aled Vaughan

 

 

1.       Croeso a chyflwyniad – Huw-Irranca-Davies AS

Croesawodd Huw Irranca-Davies AS y rhai a oedd yn bresennol i’r cyfarfod, a gwnaed cyflwyniadau i Aelodau o’r Senedd.

 

2.       Cofnodion y cyfarfod diwethaf – Huw-Irranca Davies AS

Cymeradwywyd cofnodion yn ffurfiol ar ôl y cyfarfod.

 

 

3.       Materion sy’n codi – Joseph Carter, Awyr Iach Cymru

Roedd mater yn codi yn dilyn cyflwyniad Rebekah Ahmed ar ysgolion. Yn lle hynny, penderfynwyd gweithio drwy staff ymgysylltu ysgolion Sustrans Cymru ar gyfer Diwrnod Aer Glân.

 

 

4.       Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – Ethol Is-gadeiryddion ac Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol. Enw a chylch gorchwyl.

 

Cafwyd enwebiadau gan Huw Irranca-Davies AS fel Cadeirydd, Delyth Jewell AS a Janet Finch-Saunders AS fel Is-gadeiryddion, ac Awyr Iach Cymru fel Ysgrifenyddiaeth.

 

Cadeirydd – Cynigiodd Carolyn Thomas AS Huw Irranca-Davies AS a chafodd ei eilio gan Altaf Hussain AS.

Is-gadeiryddion – Cynigiodd Altaf Hussain AS Delyth Jewell AS a Janet Finch-Saunders AS a chawsant eu heilio gan Carolyn Thomas AS.

Ysgrifenyddiaeth – Cynigiodd Awyr Iach Cymru Carolyn Thomas AS a chafodd ei heilio gan Altaf Hussain AS.

 

Enw – Gwnaethom gytuno i newid yr enw o Grŵp Trawsbleidiol ar Ddeddf Aer Glân i Gymru, i Grŵp Trawsbleidiol ar Aer Glân. Gwnaethom gytuno i newid y diben o 'Sicrhau cefnogaeth wleidyddol ar gyfer deddf aer glân i Gymru' i 'Codi ymwybyddiaeth o effaith llygredd aer a sicrhau cefnogaeth wleidyddol i gamau i ddiogelu'r amgylchedd a gwella iechyd y cyhoedd.'

 

5.       Joseph Carter, Awyr Iach Cymru: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau)

Gwahoddodd Huw Irranca-Davies AS Joseph Carter i roi cyflwyniad ar Fil yr Amgylchedd o safbwynt Awyr Iach Cymru.

 

Atgoffodd Joseph bobl o'r gofynion gwreiddiol a wnaeth Awyr Iach Cymru yn 2017 a dweud eu bod wrth eu bodd bod cynifer o'r elfennau hyn yn cael eu cyflawni drwy'r Bil. Dyma hwy:

 

·         Strategaeth aer glân drawslywodraethol, gan gynnwys:

o   Rhwydwaith monitro ac asesu annibynnol

o   Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

o   Parthau Aer Glân, gan gynnwys opsiynau codi tâl yn y prif ddinasoedd

o   Cynllun Aer Glân Blynyddol ar gyfer pob awdurdod lleol (ar y cyd â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus) gyda mesurau rheoli

o   Mae'n rhaid i Gynlluniau Datblygu Strategol ac awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol ystyried ansawdd aer

·         Cronfa Aer Glân i ariannu camau llywodraeth leol

·         Mwy o fesur llygredd aer ger ysgolion ac adrodd arno 

·         Gwella monitro llygredd, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a rhybuddion iechyd y cyhoedd

·         Deddf Aer Glân i Gymru, gan gynnwys:

o   Ymgorffori canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd yn y gyfraith;

o   Gorfodi Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth ansawdd aer statudol bob 5 mlynedd;

o   Darparu dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol, a chymryd camau yn ei erbyn;

o   Cyflwyno 'hawl i anadlu' lle y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu grwpiau sy'n agored i niwed pan fydd lefelau penodol yn cael eu torri.

 

Mae Awyr Iach Cymru yn cefnogi Bil yr Amgylchedd ond yn credu bod meysydd lle y gellid ei gryfhau a'i wella.

 

·         Targedau ansawdd aer newydd – Bydd gweinidogion yn cael pwerau i osod targedau ansawdd aer newydd, gan ein helpu i leihau llygredd aer a chael yr hawl i anadlu aer glân. Mae Awyr Iach Cymru yn croesawu'r ymrwymiad yn y Bil i geisio cyngor perthnasol ac i roi sylw i wybodaeth wyddonol, a'r cyfeiriadau at ganllawiau newydd Sefydliad Iechyd y Byd yn y Memorandwm Esboniadol, ond yn poeni nad oes dim yn y Bil i sicrhau y bydd targedau’n cael eu gosod yn gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, yn unol â’r ymrwymiad. Mae’n siomedig bod a1(1) yn datgan y ‘caiff Gweinidogion… osod targedau hirdymor', ond bod a2(1) yn datgan bod yn 'rhaid' iddynt wneud hynny. Hoffai i'r Bil gofnodi yn y gyfraith ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddeddfu i gyflawni terfynau Sefydliad Iechyd y Byd ar lygredd aer a rhoi i ddinasyddion yr hawl i anadlu aer glân.

 

·         Hyrwyddo ymwybyddiaeth – Mae Awyr Iach Cymru yn gefnogol i'r adran hon a'r gyllideb £500,000 a ddyrannwyd iddi. Dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymgyrchoedd hysbysiadol wedi’u targedu ar effeithiau llygredd aer a llosgi ar yr amgylchedd ac iechyd, yn ogystal â darparu cyngor a chymorth i gyflenwyr ac aelwydydd ar sut i leihau cynnwys lleithedd pren. Wrth hyrwyddo ymwybyddiaeth am lygredd aer, dylai Llywodraeth Cymru hefyd ymrwymo i hyrwyddo ymwybyddiaeth o atebion newid ymddygiad a all leihau llygredd aer. Yn yr un modd ag y bydd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw dyladwy i'r effaith ar ansawdd aer, dylai codi ymwybyddiaeth o lygredd aer fod yn gysylltiedig â hyrwyddo ymddygiadau iach i wella ansawdd ein haer megis teithio llesol a'r angen am newid dulliau teithio.

 

·         Strategaeth Ansawdd Aer Genedlaethol - Bydd angen i Weinidogion ddatblygu strategaeth ansawdd aer 5 mlynedd newydd. Ar hyn o bryd, mae ganddynt Gynllun Aer Glân, ond bydd ei wneud yn strategaeth statudol a ddiffinnir yn y gyfraith yn ei gryfhau. Mae Awyr Iach Cymru yn croesawu'r cynnig hwn, ond yn pryderu am y ffordd y bydd yn cael ei gyflawni. Mae'r Bil yn ceisio diwygio Deddf yr Amgylchedd 1995 (adran 80) er mwyn datgan mai Gweinidogion Cymru yn y Senedd, yn hytrach nag Ysgrifennydd Gwladol a Senedd y DU, a fyddai bellach â'r pwerau i wneud 'strategaeth ansawdd aer genedlaethol' yng Nghymru. Roedd y ddarpariaeth hon yn bosibl oherwydd bod Deddf yr Amgylchedd 2021 gan Senedd y DU wedi diwygio’r un adran i bennu y byddai Llywodraeth y DU yn defnyddio’r pŵer hwn i wneud strategaeth ansawdd aer genedlaethol. Mae hyn yn ymddangos yn ffordd anarferol iawn o ddrafftio Bil ac mae’n pryderu am ganlyniadau annisgwyl. Felly, hoffai i’r adran hon gael ei hailddrafftio fel ei bod yn amlwg bod Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) yn rhoi pwerau clir i Weinidogion Cymru ddatblygu strategaeth aer glân gyda phroses adolygu glir a ddiffinnir yn y Bil. Mae adran 22 yn darparu templed defnyddiol y gallai adran 9 ddiwygiedig ei ddilyn.

 

·         Llygredd aer lleol - Bydd y Bil yn newid y system y mae'r cyngor lleol yn ei defnyddio i fonitro llygredd aer a chymryd camau i'w leihau. Ar hyn o bryd, caiff cynghorau ddatgan ardaloedd rheoli ansawdd aer lle y mae mannau problemus o ran llygredd, ond yna ni chânt gymryd llawer o gamau i fynd i'r afael ag ef. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn y Memorandwm Esboniadol (paragraff 3.127) nad yw'r system bresennol yn gweithio, felly mae adran 14 wedi'i chynllunio i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae Awyr Iach Cymru yn croesawu'r angen i awdurdodau lleol wneud adolygiad blynyddol o ansawdd aer lleol yn ofynnol, a’r angen i ymrwymo i ddyddiad cydymffurfio y cytunir arno â Llywodraeth Cymru. Fel y mae paragraff 3.133 o’r Memorandwm Esboniadol yn datgan, mae'r fframwaith presennol ond yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu camau 'tuag at’ gydymffurfedd. Gallai hyn olygu bod yr un ardaloedd rheoli ansawdd aer yn parhau am flynyddoedd.

 

·         Rheoli mwg - Bydd y Bil yn newid troseddau rheoli mwg i fod yn droseddau sifil, gan ganiatáu i gynghorau ddyroddi dirwyon. Y gobaith yw y bydd hyn yn gwella gorfodaeth ac ymwybyddiaeth well bod llosgi pren neu lo’n wael ar gyfer llygredd aer ac yn beryglus i bobl â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes. Mae Awyr Iach Cymru eisiau tanwydd gwell, teclynnau gwell, gwybodaeth well a newid i ffwrdd o losgi domestig, ond nid ydynt yn siŵr a yw'r Bil yn cyflawni hynny.  Nid yw'n glir a yw Llywodraeth Cymru eisiau ehangu ardaloedd rheoli mwg a diogelu iechyd y cyhoedd ai peidio. Ar hyn o bryd, dim ond 4 awdurdod lleol sy'n gweithredu ardaloedd rheoli mwg ac nid yw'r Memorandwm Esboniadol na'r Bil yn ei gwneud yn glir a fyddai Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i wneud cais amdanynt. Hoffai Awyr Iach Cymru i'r Bil gyflwyno cyfyngiadau rheoli mwg ar draws y genedl gyfan, gan roi'r amddiffyniad y mae ar bawb ei angen rhag peryglon llosgi'r tanwyddau mwyaf llygrol. Gallai rheoliadau ddarparu ar gyfer system o esemptiadau i bobl sy'n byw mewn ardaloedd anghysbell iawn, ond dylid lleihau llosgi domestig yng ngweddill Cymru a defnyddio tanwyddau sych/di-fwg yn unig. Mae hefyd yn pryderu ei bod yn ymddangos bod adran 16 ac atodlen 1, i raddau helaeth, yn dyblygu'r ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer Lloegr yn Neddf Aer Glân 1993, yn hytrach na datblygu rhywbeth pwrpasol ar gyfer Cymru.

 

·         Codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd - Mae adrannau 19 ac 20 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gyflwyno gwefru cerbydau ar ddefnyddwyr cefnffyrdd lle y mae llygredd aer yn parhau i fod yn uchel. Nid yw'r Bil yn cwmpasu parthau aer glân na threfi a dinasoedd oherwydd nad oes gan y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol yn y maes hwn. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer eisoes i gyflwyno parthau aer glân oherwydd Deddf Trafnidiaeth 2000 gan Senedd y DU. Mae codi tâl ar ddefnyddwyr cerbydau drwy barthau aer glân wedi’i ddefnyddio i leihau llygredd aer mewn dinasoedd ar draws Ewrop ac yn Lloegr. Llundain sydd â'r un mwyaf llwyddiannus gyda buddion yn cynnwys gostyngiad bron 50 y cant mewn llygredd gwenwynig nitrogen deuocsid yng nghanol Llundain. Mae Awyr Iach Cymru yn cefnogi parthau aer glân a chodi tâl ar ddefnyddwyr cerbydau, ond nid yw’n siŵr a fydd codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd yn cael yr effaith a ddymunir. Mae parth aer glân yng nghanol dinas yn gweithio ar y sail y gall pobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu ddull teithio llesol i fynd i ganol y ddinas yn lle ceir. Efallai na fydd parth aer glân cefnffyrdd yn gweithio cystal gyda'r risg y dargyfeirir traffig a llygredd aer i ffyrdd preswyl, llai o faint, yn hytrach na mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.

 

·         Segura cerbyd – Mae Awyr Iach Cymru yn croesawu'n gryf gwelliannau a.21 i Ddeddf yr Amgylchedd i wneud segura llonydd yn drosedd o dan a.42 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988. Bob munud, mae car segur yn cynhyrchu digon o allyriadau egsôst i lenwi 150 o falwnau â chemegion niweidiol, gan gynnwys seianid, nitrogen deuocsid a PM2.5. Fodd bynnag, byddai’n croesawu eglurder ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gosbau am segura llonydd gael eu dyroddi, a pha gyrff y bydd yn ofynnol iddynt orfodi'r drosedd.

 

·         Seinweddau - Seinweddau - mae adrannau 22-24 yn ymwneud â'r ardal seinwedd newydd a arweiniodd at ailenwi'r Bil.  Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion gyhoeddi strategaeth seinweddau. Mae Awyr Iach Cymru yn credu bod hyn yn ychwanegiad cadarnhaol a fydd yn mynd i'r afael â math o lygredd sy’n effeithio ar y clustiau, yn ogystal ag iechyd meddwl, dysgu, y system gardiofasgwlaidd, ac y gall effeithio ar ddementia a gweithrediad gwybyddol.

 

 

6.       Julie James AS: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau)

Croesawodd Huw Irranca-Davies AS Julie James AS a Lee Waters AS i'r cyfarfod. Dechreuodd Julie drwy ddweud wrth bawb y byddai Lee yn cymryd yr awenau ar gyfer Cyfnod 2 o Fil yr Amgylchedd a’r tu hwnt.

 

Dywedodd ei bod yn croesawu'r adborth gan randdeiliaid a phwyllgorau'r Senedd yng Nghyfnod 1. Nid yw'r Bil yn cynnwys popeth a’i nod yw cyd-fynd â deddfwriaeth arall a strategaethau eraill.

 

Esboniodd Julie ei gwrthwynebiad i osod targedau ar wyneb y Bil. Roedd yn teimlo y byddai'n ei gwneud yn anodd eu diwygio gyda threigl amser a thynnodd sylw at enghreifftiau eraill lle y rhoddwyd cynnig ar hyn mewn meysydd polisi eraill ac nad yw wedi gweithio.

 

Roedd yn deall y dadleuon ynghylch gwneud gwelliannau teithio llesol i'r Bil, ond roedd yn poeni y gallai hyn gulhau cwmpas y ddeddfwriaeth ac roedd pryder y gallai hyn fod y tu allan i gwmpas y Bil.

 

Siaradodd am yr adrannau cefnffyrdd, gwrthsegura ac ansawdd aer lleol fel meysydd lle y bu llawer o drafod mewn pwyllgorau, er bod y cynigion seinweddau wedi cael derbyniad da.

 

Gofynnodd Carolyn Thomas AS gwestiwn am gerbydau adeiladu mawr a'r llygredd aer maent yn ei gynhyrchu, ac un ar goelcerthi.

 

Dywedodd Julie James AS y dylid rheoli llygredd o waith adeiladu drwy orfodi cynllunio a rhoi cyfyngiadau ar y datblygwyr yn ystod y Bil. Dywedodd nad oedd coelcerthi’n ymddangos yn uniongyrchol yn y Bil, ond y byddai'r newidiadau i reolau ar barthau rheoli ysmygu yn eu gwneud yn haws i’w gorfodi. Dywedodd y byddai ymgynghoriad newydd ar stofiau aml-danwydd. Pe baent yn deddfu nawr, byddai'n ddrud iawn i bobl â'r stofiau hyn eu hôl-osod, felly maent am iddo fod yn gymesur.

 

Gofynnodd Altaf Hussain AS sut y byddai'r Gweinidog yn mynd i'r afael â thagfeydd a llygredd aer o amgylch ysgolion.

 

Dywedodd Julie James AS y byddai'r Bil yn caniatáu i awdurdodau lleol awdurdodi staff i orfodi gwrth-segura. Ni fyddai'n rhaid i swyddogion gorfodi presennol wneud hynny, a gallai staff ysgol presennol wneud hynny. Mae'n gobeithio y bydd modd addysgu pobl i beidio â segura.

 

Siaradodd Lee Waters AS am gynlluniau strydoedd ysgolion a byddai'n annog mwy o awdurdodau lleol i gyflwyno hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn gwefru cerbydau trydan.

 

Gofynnodd Keith Henson am amodau cynllunio. A fyddai cyfle am fwy o dai fforddiadwy mewn cynghorau fel Ceredigion, lle y mae'r aer yn lanach.

 

Dywedodd Julie James AS ei bod yn annog cynghorau lleol i adolygu eu CDLl i edrych ar faint o fannau parcio sydd wedi'u cynnwys mewn datblygiadau a sut y mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei chynnwys mewn datblygiadau. Dywedodd y dylai'r cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol helpu hefyd.

 

Gofynnodd Gwenda Owen am y ddyletswydd i hyrwyddo aer glân. Sut rydym yn sicrhau bod hyn yn digwydd fel y cynlluniwyd? Gwnaeth gymariaethau â'r Ddeddf Teithio Llesol.

 

Dywedodd Julie James AS nad oedd am gyfyngu hynny i deithio llesol. Bydd canllawiau a disgresiwn lleol yn dibynnu ar anghenion y gymuned benodol.

 

Dywedodd Lee Waters AS eu bod yn cydymdeimlo â'r pryderon a godwyd ynghylch teithio llesol. Y perygl yw, os oes arnom ddyletswydd i hyrwyddo teithio llesol ym Mil yr Amgylchedd, mai dim ond yng nghyd-destun ansawdd aer y bydd cyrff cyhoeddus yn gallu hyrwyddo teithio llesol, ac nid dyna'r hyn rydym am ei gyflawni. Mae'n siarad â chyfreithwyr i weld yr hyn y gellir ei wneud.

 

Gofynnodd Steve Manning pa gyfleoedd y bydd y Bil yn eu rhoi i ddefnyddio cyfraniadau a106 fel ffordd o gymryd camau yn erbyn llygredd aer. Gallai hyn ychwanegu cyllid i gefnogi mentrau lleol.

 

Dywedodd Julie James AS y byddai ansawdd aer, ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei phasio, yn un o'r ystyriaethau wrth ddatblygu cytundeb a106 a'r hyn y gall ei gynnwys. Mae pryder am ddiffyg capasiti mewn awdurdodau lleol, felly mae Llywodraeth Cymru yn awyddus ei bod yn rhannu arbenigedd cynllunio a chyfreithiol.

 

Gofynnodd Haf Elgar am Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir a sut rydym yn diogelu deddfwriaeth aer glân yng Nghymru. Os yw'n gyfreithiol bosibl, a allem ddatblygu deddfwriaeth fwy hunangynhwysol yn hytrach na chyfeirio at ddeddfwriaeth Lloegr i'n diogelu ein hunain.

 

Dywedodd Julie James AS fod hyn yn bryder i Lywodraeth Cymru. Maent yn ystyried cyflwyno Bil i ddiogelu Cymru yn benodol rhag effaith Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir neu a oes angen gwneud hynny ym mhob Bil unigol. Maent yn treulio llawer o amser yn olrhain yr hyn y mae Llywodraeth a Senedd y DU yn ei wneud yn y maes hwn. Eglurodd fod tair 'bwced' – dargadw, dirymu a diwygio. Mae angen gwylio’n barhaus i ba fwced y mae eich deddfwriaeth yn mynd. Gwnaethom ddarganfod ystod eang o gyfraith diogelu'r amgylchedd a roddwyd yn y 'fwced dirymu' a oedd yn syndod hyd yn oed i Ysgrifennydd Amgylchedd y DU. Os bydd elusennau, cyfreithwyr, unigolion yn ymwybodol o gyfreithiau y mae Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn effeithio arnynt, rhowch wybod i Lywodraeth Cymru.

 

Diolchodd Huw Irranca-Davies AS i Julie James AS a Lee Waters AS am fod yn bresennol a diolchodd iddynt am eu holl waith ar y Bil ac ar draws y portffolio newid hinsawdd.

 

 

7.       Unrhyw fater arall

 

Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod.

 

Y cyfarfod nesaf

16 Hydref 2023 am 10am.